Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
MIs Meibion a Merched
Published: 21/10/2015
Mae T卯m Maethu Sir y Fflint yn cefnogi mis Meibion a Merched y Rhwydwaith
Maethu i gydnabod cyfraniad gwerthfawr plant gofalwyr maeth. Bob blwyddyn, ym
mis Hydref, bydd y gwasanaethau maethu drwy鈥檙 DU yn cynnal digwyddiadau a
gweithgareddau i gydnabod a gwobrwyo plant a phobl ifanc am groesawu plant
maeth i鈥檞 teuluoedd.
Mae Leah Ellison, 23, o鈥檙 Wyddgrug wedi bod yn rhan o deulu maeth ers 7
blynedd. Dechreuodd ei rhieni faethu pan oedd yn 16 oed ac maent wedi gofalu am
27 o blant at ei gilydd.
Mae鈥檔 dweud bod y profiad o fod yn rhan o deulu maeth wedi bod un gwirioneddol
werthfawr.
鈥漅oeddwn yn unig blentyn felly mae maethu wedi bod yn gyfle i mi osod esiampl i
blant iau. Mae wedi bod yn gyfle i mi fod yn berson y mae plant yn ei edmygu ac
mae hynny, yn ei dro, wedi fy ysbrydoli i fod yn berson gwell,鈥 eglurodd.
鈥淢ae maethu鈥檔 brofiad da. Mae鈥檔 ddiddorol ac rydych yn dysgu rhywbeth o hyd.
Mae鈥檔 anhygoel cael y cyfle i greu perthynas 芒 chynifer o bobl ddiddorol o
wahanol gefndiroedd.
鈥淒oeddwn i ddim yn siwr i ddechrau, ond rwy鈥檔 siwr bod hynny鈥檔 wir yn achos pob
plentyn sy鈥檔 rhan o deulu maeth, ond os rhowch gyfle iddo, fyddwch chi ddim yn
edifarhau.鈥
Ychwanegodd Leah, sy鈥檔 awr yn byw oddi cartref;鈥 Fedra i ddim dychmygu mynd
adref heb weld wynebau gwahanol yn fy nghroesawu a鈥檙 cynhesrwydd a鈥檙 cariad y
gall plentyn mewn gofal ei gynnig.鈥
Bydd T卯m Maethu Sir y Fflint yn trefnu tripiau i blant gofalwyr maeth yn ystod
gwyliau鈥檙 ysgol i ddiolch iddynt am eu cyfraniad fel rhan o deulu maeth.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol:
鈥淕wyddom fod plant biolegol gofalwyr maeth yn bwysig iawn yn yr ymdrech i helpu
plant maeth i deimlo鈥檔 hapus a diogel, yn enwedig pan fyddant yn cyrraedd ac yn
teimlo鈥檔 llawn ofn. Maent yn rhannu eu rhieni, eu teganau a鈥檜 cartref felly
mae鈥檔 bwysig bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a鈥檌 werthfawrogi.鈥
I gyd-fynd ag ymgyrch Meibion a Merched y rhwydwaith Maethu, mae T卯m Maethu
Cyngor Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn Springfield Hotel ger
Treffynnon am 7pm nos Iau 22 Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.flintshirefostering.org.uk neu ffoniwch
01352
702190.