Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diogelu merlod Presthaven Sands
Published: 22/10/2015
Mae ceidwaid cefn gwlad wedi bod yn gweithio gyda鈥檙 gymuned i amddiffyn
merlod yn Presthaven Sands rhag peryglon llysiaur gingroen.
Mae Ceidwaid Cyngor Sir y Fflint a Pharc Carafannau Bourne Leisure
wedi bod yn gweithio gyda grwpiau o wirfoddolwyr i gael gwared ar y planhigyn
o鈥檙 caeau lle mae pump o ferlod mynydd y Carneddau yn pori.
Ers 2012, maer ceffylau鈥檔 cael eu defnyddio i borir safle o ddiddordeb
gwyddonol arbennig i helpu i hybu amrywiaeth rhywogaethau yn y twyni.
Rhywogaeth twyni cyffredin yw llysiau鈥檙 gingroen a gall fod yn wenwynig i
geffylau. Er nad fyddant yn ei fwyta fel arfer, a hynny oherwydd ei arogl
chwerw, nid yw鈥檙 ceidwaid yn fodlon cymryd unrhyw siawns.
Maent wedi bod yn gweithion ddiflino gyda gwirfoddolwyr i gael gwared ar
lysiaur gingroen o鈥檙 caeau er mwyn dileu unrhyw berygl ir merlod.
Diolch i鈥檙 gwirfoddolwyr o Bank of America Merrill Lynch, Cadw Cymru鈥檔 Daclus,
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a phawb arall a fu鈥檔 gweithio鈥檔
galed yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Cyngor Sir y Fflint ar gyfer yr ardal, sy鈥檔
cydgysylltu鈥檙 gwaith ar y twyni:
鈥淢ae wedi bod yn waith caled y tymor hwn gan fod nifer fawr o blanhigion yn
tyfu
drwy ond, diolch i鈥檙 cymorth gwych a gawsom gan ein partneriaid, fe lwyddon ni
i glirio鈥檙 safle.
Rydym yn gobeithio ymestyn y cynllun pori i safleoedd eraill yn y sir ac mae
rheoli llysiaur gingroen yn dasg allweddol yn y gwaith o ofalu am ein da byw.
Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer y rhaglen ar y safle鈥檙 flwyddyn
nesaf a gobeithio y bydd rhagor o grwpiau cymunedol a chwmn茂au preifat yn
awyddus i gymryd rhan.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd:
鈥淢ae鈥檙 timau wedi gwneud gwaith gwych yn Presthaven Sands eleni. Mae
partneriaethau fel hyn yn hanfodol yn yr hinsawdd economaidd bresennol a hoffwn
ddiolch i bawb a fu鈥檔 rhan o鈥檙 gwaith. Dyma enghraifft wych o鈥檙 gwasanaethau
cefn gwlad yn gweithio gyda鈥檙 gymuned i wella鈥檙 safleoedd cadwraeth pwysig hyn
er budd pawb ac er budd bywyd gwyllt Sir y Fflint.鈥
Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Lawrence Gotts, gyda gwirfoddolwyr o
Bank of America Merrill Lynch
Pennawd : Gwirfoddolwyr yn diogelu merlod