Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ac enillwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2015 yw...
Published: 28/10/2015
Mae鈥檙 gwobrau, a gyflwynwyd am y nawfed tro eleni, yn cydnabod rhagoriaeth a
pherfformiad eithriadol busnesau drwy鈥檙 sir.
Cafodd yr enillwyr eu datgelu mewn seremoni ffurfiol nodedig ym Mhlas Sychdyn,
Llaneurgain nos Wener 23 Hydref. Roedd yn gyfle i ddathlu llwyddiant cwmn茂au
Sir y Fflint a hynny o flaen cynulleidfa o dros 200 o bobl fusnes ddylanwadol.
Roedd yn noson wych i Steve Morgan a P & A Group. MD enillodd wobr Person
Busnes y Flwyddyn a daeth ei gwmni鈥檔 ail yn y categori Busnes Gorau i Weithio
iddo.
Cipiodd Elin Bamber o Edge Transport wobr Prentis y Flwyddyn.
Aeth y wobr am y Busnes Gorau 芒 dros 50 o staff i LDF Operations, sy鈥檔 helpu
cwmn茂au i ddatrys problemau ariannol, a鈥檙 Busnes Gorau 芒 llai na 50 o staff
oedd Pro-networks, cwmni sy鈥檔 cynnig gwasanaethau TGCh. M7 Aerial ddaeth yn
fuddugol yn y categori Busnes Gorau 芒 llai na 10 o staff.
Cipiodd CSA Group Testings y wobr am y Cwmni Allforio Gorau, enillodd Rubicon
Manufacturing y wobr ar gyfer y Busnes Newydd mwyaf Arloesol, S & T Systems
enillodd y Wobr Llwyddo drwy Arloesi ac, yn olaf, ICR Group enillodd y wobr
Llwyddo drwy Weithio鈥檔 Gynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler - yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu
Economaidd:
鈥淗offwn longyfarch yr holl enillwyr. Daeth busnesau da iawn i鈥檙 brig a chafodd
y beirniaid gryn drafferth dewis yr enillwyr ym mhob categori eleni.
鈥淗offwn hefyd ddiolch i鈥檔 noddwyr am sicrhau bod modd cynnig y gwobrau hyn.
Roedd yn noson wych ac ni fyddai wedi bod yn bosibl ei chynnal heb eu
cefnogaeth nhw. Mae鈥檔 braf bod busnesau Sir y Fflint yn gweld gwerth yn y
gwobrau a鈥檜 bod yn awyddus i gefnogi ei gilydd.鈥
Roedd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, prif noddwr
Gwobrau Busnes Sir y Fflint, yn awyddus i longyfarch yr holl fusnesau a
lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer: 鈥淩oedd yn fuddiol iawn i AGS Security
Systems ddychwelyd i鈥檙 llwyfan fel y prif noddwr eto eleni. Rwy鈥檔 parhau i
ryfeddu at yr amrywiaeth a鈥檙 brwdfrydedd sydd i鈥檞 weld ymhlith busnesau Sir y
Fflint ac mae safon byd busnes y Sir yn llwyddo i fy nghyffroi bob amser.
鈥淢ae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn helpu i gydnabod perfformiad eithriadol ac,
yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl am y genhedlaeth nesaf ac am addysg ein
cydweithwyr - rydym i gyd yn gyfrifol am greu entrepreneuriaid y dyfodol.鈥
Dyma enillwyr a noddwyr y deg categori:
Gwobr Noddwr
Buddugol
Prentis y Flwyddyn Coleg Cambria Elin Bamber
Busnes Gorau 芒 dros 50 o staff Pochin Ltd LDF Operations
Ltd
Busnes Gorau 芒 llai na 50 o staff Edge Transport M7 Aerial
Busnes Gorau 芒 llai na50 o staff Ffederasiwn Busnesau Bach Pro-Networks
Busnes Gorau i Weithio Iddo B 2 Business Systems P & A
Group
Allforio Wagtail UK Ltd CSA Group
Testing UK
Busnes Newydd mwyaf Arloesol DSG Chartered Accountants
Rubicon
Manufacturing
Llwyddo drwy Arloesi Prifysgol Glyndwr
S & T Systems
Llwyddiant drwy Weitho鈥檔 Gynaliadwy Porthladd Mostyn ICR Group
Person Busnes y Flwyddyn AGS Security Systems
Steve Morgan,
P & A Group
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflitn, ffoniwch For Kate
Catherall ar 01352 703221 neu ewch i www.wythnosfusnessiryfflint.co.uk