香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyma Ein Cyfle Ni 鈥 Wynebu鈥檙 Her Ariannol yn Sir y Fflint

Published: 28/10/2015

Digwyddiadau Ymgysylltu 芒鈥檙 Cyhoedd 16 Tachwedd 鈥 7 Rhagfyr Mae gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol dan fygythiad oherwydd y gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus. Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar y cyhoedd i sefyll o blaid eu gwasanaethau lleol drwy weithio gyda鈥檙 Cyngor i wynebu鈥檙 her ariannol. Bydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd gan ddechrau ym mis Tachwedd fel bo pobl yn cael clywed sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith o siapio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a sicrhau fod eu barn yn cyfrif yn y ddadl gyllidebol. Mae angen i鈥檙 Cyngor ostwng ei gyllideb yn sylweddol a gwneud newidiadau hollol newydd i鈥檙 ffordd y darperir gwasanaethau yng ngoleuni鈥檙 gostyngiadau ariannol sylweddol y mae鈥檙 llywodraeth wedi鈥檜 gwneud flwyddyn ar 么l blwyddyn. Daw hyn ar adeg pan fo鈥檙 Cyngor yn wynebu cynnydd di-osgoi mewn costau a galw am wasanaethau. Mae Sir y Fflint yn Gyngor effeithlon ac arloesol ac mae ganddo hanes o ymdopi gyda鈥檙 cyllid sydd ar gael, gan arbed dros 拢22m yn y tair blynedd diwethaf. Wrth wneud hynny, mae wedi diogelu gwasanaethau allweddol ar yr un pryd megis cynnal a chadw ffyrdd, cadw cymunedau鈥檔 l芒n ac yn daclus, canolfannau hamdden, ysgolion lleol, cymorth lles a gwasanaethau i bobl hyn, plant sy鈥檔 agored i niwed a鈥檙 rheiny ag anableddau. Ond rhwng nawr a 2018 mae鈥檙 rhagolwg yn llwm wrth i鈥檙 Cyngor wynebu bwlch pellach o 拢53m yn y gyllideb. Eleni yn unig mae 拢18.3m wedi cael ei arbed tuag at y targed hwn, ac rydym bellach wedi cyrraedd 鈥榯robwynt鈥 difrifol. Mae鈥檙 Cyngor wedi cyhoeddi Strategaeth Ariannol Tymor Canolig manwl sy鈥檔 nodi sut y mae鈥檔 cynnig ymateb i鈥檙 heriau sy鈥檔 ei wynebu. Bydd angen cymorth Llywodraeth Cymru a鈥檙 cyhoedd arno i gyflawni hynny. Meddai Arweinydd y Cyngor Aaron Shotton: 鈥淣i yw un o鈥檙 Cynghorau sy鈥檔 derbyn y lleiaf o gyllid yng Nghymru ac rydym yn dal i godi tua鈥檙 cyfanswm cyfartalog yng Nghymru ar y Dreth Gyngor, ond mae鈥檙 lefel isel hon o gyllid, gydag effeithiau鈥檙 agenda cyni parhaus yn y DU, yn ein gwneud yn agored i ostyngiadau cyllidebol uchel iawn. Mae Sir y Fflint wedi amsugno toriadau cyllidebol mewn modd creadigol dros y blynyddoedd diwethaf drwy gynllunio鈥檔 ofalus, bod yn effeithlon, dod o hyd i atebion arloesol, a gostwng costau swyddfa gefn i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Mae鈥檙 Cyngor bellach wedi cyrraedd 鈥榯robwynt鈥 lle bydd y gwasanaethau鈥檔 agored i doriadau mawr heb rywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio鈥檔 galed i ddod o hyd i atebion a chredwn y gallwn arbed tuag 拢14m o鈥檙 拢21m sy鈥檔 ofynnol y flwyddyn nesaf. Os gallwn weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion pellach, er enghraifft cyfyngu cyfanswm y grant a gollwn, a derbyn cyfran o鈥檙 cyllid newydd ar gyfer iechyd i ariannu gwasnaethau gofal cymdeithasol ataliol yn uniongyrchol, credwn y gallwn gymryd cam mawr ymlaen i bontio鈥檙 bwlch ariannol hwn. Heb yr atebion hyn, bydd y gwasanaethau yr ydym wedi medru eu diogelu hyd yma mewn perygl.鈥 Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Colin Everett: Dyma gyfle鈥檙 cyhoedd i gymryd rhan. Rydym eisoes yn cynorthwyo a gweithio gyda phobl leol i ddod o hyd i atebion lleol a darparu gwasanaethau ac rydym wedi cael ein calonogi gan yr ymateb hyd yma. Ond mae llawer mwy ar 么l i鈥檞 wneud ac mae鈥檔 gyfle mawr i gymunedau lleol chwarae eu rhan a chymryd cyfrifoldeb dros gyfleusterau a gwasanaethau lleol na all y Cyngor Sir eu darparu o hyn ymlaen. Rydym am weithio gyda phobl i archwilio鈥檙 cyfleoedd hyn fel partneriaid gyda鈥檔 gilydd.鈥 Gall bobl gofrestru i fynychu un o saith digwyddiad i ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd a gynhelir mewn lleoliadau ledled y Sir gan ddechrau ar 16 Tachwedd. Bydd angen i bobl gofrestru i fynychu nawr gan y bydd nifer y lleoedd yn cael eu cyfyngu i 200 ym mhob lleoliad. Gallant wneud hyn drwy fynd ar-lein ar www.siryfflint.gov.uk/EinCyfleNi neu drwy ffonio llinell gofrestru arbennig ar 01352 701701 o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Mercher. Bydd y digwyddiadau鈥檔 cael eu cynnal o 6.30pm tan 8.30pm yn y lleoliadau canlynol: Nos Lun, 16 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle Nos Fawrth, 17 Tachwedd: Ysgol Gwynedd, Y Fflint Nos Fercher, 18 Tachwedd: Ysgol Uwchradd Treffynnon Nos Lun, 23 Tachwedd: Ysgol Bryn Coch,Yr Wyddgrug Nos Fawrth, 24 Tachwedd: Ysgol Gynradd Brychdyn Nos Iau,3 Rhagfyr: Neuadd Ddinesig, Cei Connah Nos Lun, 7 Rhagfyr: Ysgol Gynradd Sandycroft