Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cau dros y Nadolig
Published: 02/11/2015
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cau Neuadd y Sir ac adeiladau eraill rhwng y
Nadolig a鈥檙 Flwyddyn Newydd er mwyn arbed arian ar gostau rhedeg eiddo鈥檙 Cyngor
dros gyfnod tawel y Nadolig.
Ni fydd yn effeithio ar wasanaethau hanfodol megis atgyweiriadau tai brys,
gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau Strydwedd a bydd y rhain yn parhau i
gael eu darparu.
Bydd cau鈥檙 adeiladau yn effeithio ar y lleoliadau canlynol:
Neuadd y Sir, yr Wyddgrug- yn cau 5pm ddydd Iau 24 Rhagfyr 2015 ac yn ail-agor
ddydd Llun 4 Ionawr.
Neuadd Llwynegrin (Swyddfa鈥檙 Cofrestrydd) yr Wyddgrug 鈥 yn gweithredu lefel is
o wasanaeth, yn agor fel bo鈥檙 angen ar gyfer y gwasanaeth
Pencadlys Llyfrgelloedd, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug- yn cau 5pm ddydd Iau 24
Rhagfyr ac yn ail-agor ddydd Llun 4 Ionawr.
Gwnaed y penderfyniad i gau鈥檙 adeiladau gan fod y Cyngor yn wynebu toriadau i鈥檙
gyllideb na welwyd eu tebyg o鈥檙 blaen.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
鈥淔el nifer o sefydliadau, mae鈥檙 Cyngor wedi gweithredu gyda gweithlu llai dros
gyfnod y Nadolig yn y gorffennol gan fod nifer o weithwyr yn cymryd gwyliau i
dreulio amser gyda鈥檜 teuluoedd.
鈥淲aeth faint o weithwyr sy鈥檔 ein hadeiladau swyddfa yn ystod y cyfnod hwn,
maer costau ar gyfer gwresogi a goleuo yn aros yr un fath. Yn yr hinsawdd
ariannol sydd ohoni mae hyn yn ddefnydd aneffeithlon o adnoddau ac felly gwnaed
penderfyniad i gau Neuadd y Sir a鈥檙 adeiladau campws yn gyfan gwbl dros gyfnod
y Nadolig鈥.
Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett: 鈥淕ellir cadarnhau i鈥檙 cyhoedd y bydd
gwasanaethau allweddol yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn. Ni fydd yn
effeithio ar wasanaethau hanfodol na鈥檙 gwasanaethau brys.