香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Heneiddion Dda yn Sir y Fflint

Published: 12/11/2015

Maen cael ei gydnabod yn eang bod pobl yn bywn hirach. Wedii lansio ym mis Hydref 2014, mae Heneiddion Dda yng Nghymru yn bartneriaeth pum mlynedd o lywodraeth genedlaethol a lleol ac asiantaethau mawr y sector cyhoeddus ar trydydd sector yng Nghymru, sydd 芒r nod o sicrhau bod gwelliant yn lles pobl 50+ oed. Mae cynllun Heneiddion Dda yn Sir y Fflint yn nodi camau allweddol ym mhob un or pum maes blaenoriaeth a ddiffinnir yn rhaglen Heneiddion Dda yng Nghymru a fydd yn cefnogi pobl hyn i gynnal eu lles au hannibyniaeth, sef: 路 Cymunedau syn Gyfeillgar i Oed 路 Atal Codymau 路 Cymunedau Cefnogol i Ddementia 路 Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth 路 Unigrwydd ac Unigedd Er bod llawer iw ddathlu, mae oedran cynyddol yn gysylltiedig 芒 chynnydd mewn problemau iechyd tymor hir a all gael effaith fawr ar fywydau pobl, a bydd yn effeithion sylweddol ar y galw yn y dyfodol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd sicrhau bod pobl yn gallu heneiddio鈥檔 dda a chadw eu hannibyniaeth nid yn unig yn lleddfur pwysau ar wasanaethau, ond hefyd yn diogelu eu lles yn y tymor hwy. Gellir ond sicrhau lles drwy bethau fel dysgu parhaus, cyfleoedd hamdden, cysylltiadau cludiant da a chyfleusterau hygyrch yn y gymuned leol. Bydd gweithio ar y cyd gyda phartneriaid i sicrhau鈥檙 gwasanaethau ar cyfleusterau hyn yn y tymor hir nid yn unig yn sicrhau bod Sir y Fflint yn lle gwych i fynd yn hyn, ond am ein bod yn awyddus i greu cyfleoedd ar draws gwrs bywyd, mae hefyd yn lle gwych i dyfu i fyny. Dywedodd y Cyng. Christine Jones, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淵n ogystal 芒 bywn hirach, mae pobl hyn yn ddigon teg yn disgwyl byw bywydau llawn ac i wneud cyfraniadau cadarnhaol i鈥檞 teuluoedd au cymunedau. Fel cymdeithas, rydym i gyd yn cael budd mawr o鈥檙 cyfraniadau hynny ac mae Cynllun Gweithredu Heneiddion Dda yn Sir y Fflint yn gam mawr ymlaen er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i heneiddio鈥檔 dda. 鈥淗offwn hefyd gydnabod cyfraniadau ac ymroddiad sylweddol ein partneriaid sydd yn ganolog i bwrpas y Cynllun - i wella lles pobl 50+ oed yn Sir y Fflint.鈥 Bydd cynllun Heneiddion Dda yn Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod dydd Mawrth, 17 Tachwedd.