Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Penodi Cadeirydd
Published: 12/11/2015
Maer Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Rheoli
gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden, wedi cael ei benodi鈥檔 Gadeirydd
Consortiwm yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru (CLAW).
Mae gan y Consortiwm aelodaeth o bob awdurdod lleol yng Nghymru a鈥檌 brif bwrpas
yw cynnal yr arfer gorau o ran rheoli eiddo ac i stiwardio ystadau a safleoedd
awdurdodau lleol, yn ogystal 芒 darparu fforwm i gynghorau Cymru edrych ar
ddylunio, adeiladu, a rheoli adeiladau.
Dywedodd y Cynghorydd Jones: 鈥淢aen anrhydedd mawr i mi gael fy ethol yn
Gadeirydd y consortiwm Cymru gyfan hwn, syn chwarae r么l hanfodol i hyrwyddo
dylunio da yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal 芒 darparu cyfleoedd
effeithiol i gynghorau weithio gydai gilydd ledled y wlad.
鈥淵n y digwyddiad gwobrwyo diweddar cefais bleser mawr yn cyflwyno gwobrau
canmoliaeth prosiect y flwyddyn CLAW i Gyngor Sir Bro Morgannwg a Chyngor
Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Fe wnaeth bob un or prosiectau
eithriadol hyn ffurfio rhan o fentrau Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth
Cymru.鈥
Fe wnaeth y Cynghorydd Jones hefyd gyflwyno gwobr Prosiect y Flwyddyn y
Consortiwm i Gyngor Sir Ddinbych i gydnabod ei waith ar Ysgol Twm or Nant yn
Ninbych. Derbyniodd Si么n Evans, Rheolwr Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw鈥檙
wobr ar ran y Cyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: 鈥淗offwn longyfarch pawb a gyflwynodd prosiectau
ar gyfer gwobrau eleni, gyda phob un ohonynt yn dangos cyflawniadau sylweddol
wrth hyrwyddo prosiectau amgylcheddol o鈥檙 radd flaenaf ac a oedd yn dangos
gwerth am arian.鈥
Pennawd ar gyfer DSC 3176: Y Cadeirydd sy鈥檔 ymadael, y Cynghorydd Wyn Evans o
Gaerfyrddin, yn cyflwyno cadwyn y swydd ir Cynghorydd Jones
.
Pennawd ar gyfer 20151110: Y Cynghorydd Jones gyda Sion Evans o Gyngor Sir
Ddinbych