Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Codi tâl mewn meysydd parcio
Published: 23/11/2015
Cafodd strategaeth parcio ceir ar gyfer y sir gyfan ei chymeradwyo gan Gabinet
y Cyngor ym mis Ebrill sy鈥檔 cynnwys cyflwyno taliadau parcio ym mhob un o
feysydd parcio hyfyw trefi鈥檙 Cyngor Sir. Byddai鈥檙 strategaeth newydd yn
darparu dull cyson o weithredu parcio oddi ar strydoedd ym meysydd parcio鈥檙
trefi.
Mae mesurau a gorfodaeth parcio yn offer allweddol ar gyfer rheoli rhwydwaith
priffyrdd effeithiol a helpu i osgoi tagfeydd ac mae rheoli parcio oddi ar
strydoedd mewn modd effeithiol yn hanfodol er mwyn helpu i gynnal bywiogrwydd a
bwrlwm y trefi.
Bydd y taliadau parcio鈥檔 cael eu cyflwyno鈥檔 raddol ledled y sir. Cyflwynwyd
taliadau ym Mwcle, ynghyd 芒 thariffau codi t芒l newydd yn yr Wyddgrug, ym mis
Awst a dechreuwyd codi t芒l yn Nhreffynnon ym mis Medi. O 30 Tachwedd 2015
ymlaen, bydd peiriannau talu ac arddangos yn weithredol yng Nghei Connah,
Queensferry a Shotton. Yna, i ddilyn yn y flwyddyn newydd, bydd strategaeth
parcio鈥檙 Wyddgrug yn cael ei hymestyn i gynnwys codi t芒l ym meysydd parcio
Neuadd y Sir, a bydd taliadau鈥檔 cael eu cyflwyno yn y Fflint.
Mae rhestr lawn o鈥檙 trefi a鈥檙 meysydd parcio sy鈥檔 cael eu heffeithio, ynghyd
芒鈥檙 tariffau a鈥檙 oriau y codir t芒l amdanynt, ar gael i鈥檞 gweld ar wefan y
Cyngor.
Nid oes unrhyw gynlluniau i godi t芒l ar ddefnyddwyr ceir anabl ym meysydd
parcio鈥檙 Cyngor mewn lleoedd parcio dynodedig ar gyfer yr anabl.
Meddai Steve Jones Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd:
Mae鈥檙 Strategaeth Parcio Ceir yn cael ei chyflwyno fel rhan o鈥檙 her i geisio
arbed oddeutu 拢18m dros y flwyddyn ariannol nesaf. Rydym wedi addasu鈥檙
cynigion gwreiddiol er mwyn cymryd i ystyriaeth y prif bryderon a godwyd yn
ystod yr ymgynghoriadau, a hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn yn ystod y
broses.