Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arddangosfa Gill Benjamin a Jackie Walter
Published: 30/11/2015
Cynhelir arddangosfa ysbrydoledig o beintiadau a gwaith celf cyfrwng cymysg gan
yr artistiaid dawnus Gill Benjamin a Jackie Walter o Fynydd Isa, Sir y Fflint
yn Llyfrgell Bwcle rhwng 1 a 23 Rhagfyr. Dyma鈥檙 chweched mewn cyfres o
arddangosfeydd, Lliw yn y Llyfrgell, sy鈥檔 anelu at gefnogi artistiaid lleol,
rhai ohonynt sydd erioed wedi arddangos eu gwaith o鈥檙 blaen, drwy roi llwyfan
iddynt arddangos i鈥檙 cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn bydd y rhaglen o
arddangosfeydd yn Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie
Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton Langford a ffotograffiaeth gan Ceridwen
Barkley.
Meddai Gill Benjamin:
鈥淎rtist amatur ydw i sy鈥檔 byw yn Mynydd Isa. Rydw i wedi mwynhau peintio drwy
gydol fy oes, ond ers i mi ymddeol, gallaf fwynhau fy angerdd tuag at beintio鈥檔
fwy cyson. Mae pob pwnc o ddiddordeb i mi 鈥 yn arbennig tirweddau, morluniau,
pensaern茂aeth a phortreadau o anifeiliaid. Rwy鈥檔 croesawu heriau newydd.
Rwy鈥檔 mwynhau gweithio mewn nifer o gyfryngau: acrylig yw fy ffefryn ar hyn o
bryd.鈥
Meddai Jackie Walter:
鈥淎r 么l ymddeol rwyf wedi dychwelyd at ddiddordeb yr wyf wrth fy modd yn ei
wneud鈥︹. Peintio!
Rwy鈥檔 cael fy ysbrydoli gan natur a chefn gwlad hardd Cymru, cyrchfannau
gwyliau ac yn aml ffotograffau sy鈥檔 mynnu cael eu peintio. Mae gennyf
chwilfrydedd am weadau mewn creigiau a phlanhigion ac rwy鈥檔 mwynhau gweithio
gyda chyllell balet i greu effaith. Mae pob darn o waith yn mynd 芒 fi ar
siwrnai wahanol ac yn dod 芒 phrofiadau newydd i mi. Rwy鈥檔 aelod o Rwydwaith
Celf a Chrefft Gweledol Sir y Fflint a Grwp Celf Treffynnon. Rwyf wedi mwynhau
arddangos a gwerthu fy ngwaith yn lleol ac rwyf wedi cwblhau nifer o beintiadau
ar gomisiwn.鈥
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg:
鈥淩wy鈥檔 falch fod t卯m Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint a鈥檔
gwasanaeth Llyfrgelloedd yn parhau i gefnogi doniau lleol 鈥 gan arddangos eu
gwaith a chefnogi ein hartistiaid fel busnesau.鈥
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Gwenno Jones drwy e-bostio
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk