Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Fframwaith Gosod Tai Lleol
Published: 10/12/2015
Ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr, bydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod i ystyried
fframwaith i roi polis茂au gosod tai lleol ar waith.
Drwy ddatblygu polis茂au gosod tai, mae鈥檔 haws cynllunio dyraniadau tai, yn
enwedig mewn rhai cymdogaethau neu ardaloedd penodol, a hynny er mwyn diwallu
anghenion lleol a helpu i greu cymunedau bywiog a chynaliadwy.
Fel landlord, nod y Cyngor yw cydbwyso anghenion ei holl denantiaid drwy geisio
creu cymdogaethau diogel sy鈥檔 llefydd braf i fyw ynddynt, a lle mae cyfleoedd
gwaith a chyfleusterau lleol.
Yr ardaloedd cyntaf a gaiff eu hystyried o ran polis茂au gosod tai lleol yw Cei
Connah a鈥檙 Fflint lle mae tai cyngor yn cael eu datblygu ar hen safle Ysgol
Custom House Lane a鈥檙 Walks.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai,
鈥淕allai polis茂au gosod tai lleol helpu鈥檙 Cyngor i ymateb yn effeithiol i
broblemau tai lleol a gall hynny, yn ei dro, helpu i ddatblygu cymdogaethau
bywiog i鈥檔 holl denantiaid.
Mae鈥檙 datblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yng Nghei Connah a鈥檙 Fflint,
sy鈥檔 cael eu hystyried gan yr adran gynllunio ar hyn o bryd, yn gyfle delfrydol
i ni ddatblygu, llywio ac asesu ein fframwaith ar gyfer polis茂au gosod tai
lleol.