香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartrefi Iach Pobl Iach

Published: 15/12/2015

Nod menter newydd Cyngor Sir y Fflint, 鈥楥artrefi Iach Pobl Iach鈥, yw gwella鈥檙 ffordd y mae gwahanol sefydliadau鈥檔 gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys Gofal a Thrwsio Gogledd-ddwyrain Cymru, Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru, a defnyddio dull holistaidd o wella iechyd, lles a diogelwch trigolion sy鈥檔 byw mewn tai rhentu preifat drwy wella鈥檜 hamodau byw. Yn ddiweddar mae T卯m Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio ar y cyd 芒 Heddlu Gogledd Cymru i dargedu tai sydd mewn cyflwr gwael yn ardal Cei Connah. Fel rhan o鈥檙 fenter hon ymwelwyd 芒 dau eiddo, sef 341 a 343 Stryd Fawr, Cei Connah sef adeilad tri llawr a oedd wedi cael ei drosi鈥檔 wael i greu nifer o fflatiau. Yn ystod yr ymweliad gwelwyd nad oedd y system larwm t芒n yn gweithio, roedd y gwaith trydanol yn ddiffygiol ac yn beryglus ac nid oedd system wresogi sefydlog yn unrhyw un o鈥檙 fflatiau. Caewyd y fflatiau ar unwaith yn dilyn yr ymweliad oherwydd y perygl i ddiogelwch y tenantiaid a gafodd lety dros dro gan y Cyngor. Mae Swyddogion Tai yn cynorthwyo鈥檙 tenantiaid hyn i ddod o hyd i gartrefi eraill ar hyn o bryd. Meddai鈥檙 Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Ddiogelu鈥檙 Cyhoedd: 鈥淢ae gan bobl sy鈥檔 byw mewn tai rhentu preifat hawl i ddisgwyl i鈥檞 tai fod yn ddiogel ac wedi鈥檌 wresogi鈥檔 briodol a bydd y fenter 鈥楥artrefi Iach Pobl Iach鈥 yn helpu i ganolbwyntio egni pob partner i dargedu鈥檙 landlordiaid hynny sy鈥檔 methu 芒 chyflawni eu cyfrifoldebau i鈥檞 tenantiaid鈥 O 23 Tachwedd 2015 ymlaen bydd deddfwriaeth newydd yng Nghymru yn mynnu fod pob landlord, asiant gosod a rheoli yn cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/ . Nod y drwydded newydd hon yw gwella鈥檙 ffordd y caiff eiddo rhent ei reoli yng Nghymru.