香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Canfasiad Blynyddol 2024

Mae'r adran etholiadol yn cyflawni canfasiad blynyddol eleni a bydd yn dechrau mewn Medi.

Beth yw canfasiad blynyddol?

Y canfasiad blynyddol yw ymgyrch cofrestru pleidleiswyr sydd yn ôl y gyfraith yn hanfodol fel bod modd gwirio a diweddaru’r gofrestr etholiadol i Sir y Fflint. Ysgrifennwn at bob aelwyd yng Sir y Fflint yn gofyn i chi wirio fod y manylion sydd gennym ar gyfer yr eiddo ar y gofrestr etholiadol yn gywir.

Newidiadau i’r canfasiad blynyddol a phwy sy’n gallu cofrestru i bleidleisio

Mae’r gyfraith ar sut yr ydym yn cyflawni’r canfasiad blynyddol wedi newid. Yn wahanol i’r gorffennol, mae’r etholwyr sydd gennym ar ein cofrestr yn cael eu cymharu gyda data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i eiddo lle mae preswylwyr o bosib wedi newid. Bydd y wybodaeth hefyd yn ein helpu i benderfynu sut fath o ohebiaeth y byddwn yn ei anfon allan i’r eiddo.

Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol ac is-etholiadau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni rŵan gofrestru pobl ifanc 14 ac 15 oed. Os oes gennych chi rywun sy’n byw yn eich eiddo sy’n 14 oed neu’n hŷn, mae hi bellach yn bosib eu hychwanegu nhw i’r gofrestr etholiadol fel pan fyddan nhw’n 16 oed bydd posib iddyn nhw bleidleisio yn yr etholiadau hyn.

Hefyd mae’r holl wladolion tramor (sy’n byw yng Nghymru yn gyfreithlon) yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, etholiadau llywodraeth leol ac is-etholiadau. Yn y gorffennol dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, o’r Gymanwlad neu’r UE sydd wedi cael pleidleisio. Mae hyn yn golygu os ydych o wlad arall ar wahân i’r rhain y gallwch bellach bleidleisio yn yr etholiadau hyn.

Sut y byddwn yn cysylltu â chi?

Yr un fath ag o’r blaen, byddwn yn cysylltu â phob aelwyd yng Sir y Fflint. Gall hyn fod drwy anfon ar bapur i eiddo neu gysylltu ag unigolion yn defnyddio e-bost, neges testun neu drwy alwad ffôn. Os na fyddwn yn derbyn ymateb pan fyddwn ni angen un yn gyfreithiol, mae’n rhaid i ni geisio cysylltu unwaith eto. Gall hynny fod drwy ddull gwahanol i’r dull cyntaf.

Yr hyn sy’n rhaid i mi ei wneud ar ôl derbyn cyfathrebiad gennych chi?

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y cyfathrebiad a anfonwyd gennym atoch yn ofalus (yn llythyr, ffurflen neu e-bost). Byddwch angen dilyn y cyfarwyddiadau i wneud yn siŵr fod pawb sydd yn byw yn eich eiddo (sydd yn cael pleidleisio) wedi cofrestru. Os oes gwybodaeth ar goll yna rhaid i chi gysylltu â ni i roi gwybod i ni. Os oes unrhyw bobl ifanc 14 i 17 oed neu wladolion tramor eraill yn byw yn eich eiddo sydd heb eu rhestru yna byddwn angen eu manylion nhw hefyd. Byddem yn gwerthfawrogi ymateb sydyn  fel nad oes angen anfon nodyn atgoffa atoch.

Sut ydw i’n cadarnhau neu’n diweddaru’r wybodaeth sydd gennych ar gyfer yr eiddo?

Dilynwch y cyfarwyddiadau wedi’u darparu yn y cyfathrebiad. Os oes angen ymateb bydd hynny wedi’i nodi yn y cyfathrebiad. Os yn bosib, defnyddiwch un o’r gwasanaethau isod i helpu arbed arian i’r cyngor.

Ar-lein - i gadarnhau, ychwanegu, dileu neu ddiwygio manylion.  

Mewngofnodi ar

Gwasanaeth Rhadffôn Awtomatig - dim ond ar gyfer cadarnhau bod y manylion yn gywir.

Ffôn 0800 8840702

Neges Testun - dim ond ar gyfer cadarnhau bod y manylion yn gywir.

Anfonwch neges DIMNEWID gyda’ch cod diogelwch i ddilyn at 80212 (os nad oes neb yn gymwys i bleidleisio dylech gynnwys rheswm ar ôl eich cod diogelwch h.y. eiddo yn wag, busnes, ail gartref, dim, arall)

Bydd angen i chi gynnwys y cod diogelwch (2 ran) yn eich cyfathrebiad

Beth sy’n digwydd unwaith y byddaf wedi ymateb?

Ar ôl i ni dderbyn y wybodaeth mi wnawn ni ei wirio yn erbyn y gofrestr etholwyr. Os oes yna unrhyw ychwanegiadau, gwybodaeth i’w ddileu neu ddiwygio bydd yn cael ei ddiweddaru ar y gofrestr etholiadol.

Os ydych wedi ychwanegu rhywun i’r eiddo yna mi fyddwn ni’n anfon ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru yn y post neu dros e-bost iddyn nhw yn gofyn iddyn nhw ddarparu mwy o wybodaeth fel dyddiad geni a rhif yswiriant cenedlaethol. Rydym angen y wybodaeth hon er mwyn cadarnhau eu hunaniaeth. Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Os byddwch yn dweud wrthym fod rhywun wedi symud o'r cyfeiriad, byddwn yn anfon llythyr at yr unigolyn hynny er mwyn i ni gael cadarnhad eu bod wedi symud. Mae’n ofynnol arnom fod gennym ddau ddarn o dystiolaeth i dynnu rhywun oddi ar y gofrestr etholiadol.

Beth os na fyddaf yn ymateb?

Os na fyddwch yn ymateb i’r cyfathrebiad neu’r nodyn atgoffa pan ofynnir i chi wneud hynny, o bosib byddwn yn eich ffonio o’n swyddfa neu bydd canfasiwr (swyddog o’r cyngor) yn ymweld â’ch eiddo i gadarnhau hynny gyda chi mewn person.

Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru

Os ydych wedi cael eich ychwanegu i eiddo rydym angen ymateb i’r ffurflen hon er mwyn cwblhau eich cofrestriad etholiadol. Ni fyddwch yn cael eich ychwanegu i’r gofrestr etholiadol nes ein bod wedi derbyn y wybodaeth hon. Gallwch hefyd wneud hyn ar lein drwy ymweld â . Byddwch angen eich rhif yswiriant cenedlaethol a’ch dyddiad geni i gwblhau’r broses. Y rheswm dros hynny yw cadarnhau eich hunaniaeth yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.