香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Gwybodaeth i Landlordiaid ac Asiantau Rheoli

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru

Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

Cyfrifoldebau'r Landlord

Manylion am y cyfrifoldebau y mae'n rhaid i bob landlord ac asiant rheoli yng Nghymru eu cyflawni.

Cyflwr Tai

Manylion am yr amodau y mae'n rhaid i bob landlord ac asiant rheoli yng Nghymru sicrhau bod eu heiddo yn eu bodloni.

Dod o hyd i Denant

Gall ein T卯m Cefnogi Landlord gynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth i sefydlu contract meddiannaeth newydd


Tystysgrifau Perfformiad Ynni

Mae angen Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer unrhyw eiddo a gaiff ei adeiladu, ei werthu, neu ei osod ar rent. Mae dirwy ar gyfer y rheiny nad ydynt yn cael Tystysgrif Perfformiad Ynni ddilys pan fo hangen un. Fel Landlord mae’n rhaid i chi allu dangos copi o’ch Tystysgrif Perfformiad Ynni i unrhyw ddarpar ddeiliaid contract (tenantiaid).

Mae’r dystysgrif yn cynnwys sgôr effeithlonrwydd ynni o A i G. A yw’r mwyaf effeithlon a G yw’r lleiaf effeithlon. Mae’n rhaid i Landlordiaid sy’n gosod eiddo gael sgôr o E neu uwch er mwyn cydymffurfio â Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni.

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn para am 10 mlynedd ac mae’n rhoi gwybodaeth ynglŷn â defnydd eiddo o ynni a chostau rhedeg yr eiddo, yn ogystal ag argymhellion ynglŷn â sut y gall eiddo wella ei sgôr a lleihau costau a’r defnydd o ynni. 

Dilynwch y ddolen isod i ganfod asesydd achrededig.


Canfod masnachwr dibynadwy

Yr ydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw i ganfod contractwr dibynadwy, ac oherwydd pryderon ynglŷn â masnachwyr twyllodrus, gall fod yn anodd gwybod beth i chwilio amdano. Yng Nghyngor Sir y Fflint yr ydym yn cefnogi’r cynllun Prynwch Efo Hyder. Mae Prynwch Efo Hyder wedi ei ffurfio o nifer o wasanaethau Safonau Masnach i ddarparu rhestr o gontractwyr cymeradwy y gellwch fod yn sicr eu bod yn gymwys, profiadol, ac wedi eu fetio’n fanwl. 

Dilynwch y ddolen isod i ganfod busnes sy’n lleol i chi.


Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol

Fel Landlord mae’n bwysig cadw eich eiddo’n ddiogel ac i’r safonau cywir. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y gosodiadau trydanol yn eich eiddo’n fodern.

Mae’n rhaid i’r Landlord gael Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol (EICR) sy’n amlinellu canlyniad y prawf ac unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen. Mae’r adroddiad yn para am bum mlynedd, ac yna mae’n rhaid cynnal prawf arall.

Mae’n rhaid rhoi’r adroddiad hwn i ddeiliad contract presennol (tenant) o fewn 28 niwrnod o ddyddiad cynnal y prawf, i unrhyw ddeiliaid contract newydd cyn iddynt ddod i fyw yno, neu i unrhyw ddarpar ddeiliad contract o fewn 28 niwrnod o ddyddiad gwneud y cais.

Os yw’r awdurdod lleol yn gwneud cais i weld copi o’r adroddiad, mae’n rhaid ei ddarparu o fewn saith niwrnod o ddyddiad y cais. Mae’n rhaid i Landlordiaid wedyn gadw cofnod o’r adroddiad, oherwydd bydd rhaid iddynt ei ddarparu i’r profwr a fydd yn gwneud y prawf newydd ymhen pum mlynedd.

Mae  yn daliadau y gellir eu gwneud gan y Cyngor i bobl sy'n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (Elfen Dai), ond a all fod angen rhagor o gymorth ariannol gyda'u costau tai.

I weld os yw eich tenantiaid yn gymwys am fudd-daliadau, gallwch ddefnyddio’r Cyfrifianellau Budd-daliadau ar  neu

 

Help Sydd ar Gael

Gallwch drefnu bod y rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi os yw eich tenantiaid mewn anawsterau ariannol: 

- Os ydynt yn cael Budd-dal Tai

Mae Tai Teg yn darparu dewisiadau gwahanol o ran tai fforddiadwy, yn cynnwys eiddo sydd ar werth neu ar gael i’w rhentu.  Mae Tai Teg yn rheoli’r gofrestr tai fforddiadwy/tai canolradd.  

Am fwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd cyfredol ac i ymgeisio ewch

 

Mae’n rhaid i bob eiddo wedi’i rhentu’n breifat yng Nghymru fod wedi cofrestru a thrwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru ac mae’n rhaid iddynt gael Tystysgrif Perfformiad Ynni dilys gyda graddfa ynni o A i E. 

Os yw’r eiddo wedi cael graddfa F neu G, nid yw’n gallu cael ei osod, oni bai bod eithriad wedi’i gofrestru. 

Os ydych yn meddwl cyflwyno rhybudd oherwydd dyledion rhent neu broblemau eraill gyda’r denantiaeth, cysylltwch â ni am gymorth a chefnogaeth. 

Ffoniwch y Swyddog Dyletswydd Cymorth Tai ar 01352 703515 neu e-bost HousingSupportReferrals@flintshire.gov.uk

 Gallwn roi cyngor i chi os oes angen cymorth arnoch i helpu dod ag eiddo sydd wedi bod yn wag yn ôl i gyflwr boddhaol er mwyn gallu ei osod. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen

 

Mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i landlordiaid ar draws Gogledd Cymru, yn cynnwys pecyn cychwyn tenantiaeth hollgynhwysol heb unrhyw ychwanegiadau cudd felly gallwch fod yn siŵr na fydd gofyn i chi dalu am unrhyw wasanaethau ychwanegol cyn i’ch tenant symud i mewn. 

Os oes gennych chi letywr yn barod neu’n meddwl am osod ystafelloedd wedi’u dodrefnu yn eich eiddo, efallai byddwch yn gymwys am y ‘Cynllun Rhentu Ystafell’.