香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Cymru


Mae'r dudalen hon yn cael ei chyfieithu ar hyn o bryd, ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Mae’r system cynlluniau datblygu statudol yng Nghymru yn cynnwys tair haen:

  • Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
  • Cynllun Datblygu Strategol 
  • Cynllun Datblygu Lleol

Mae Cynllun Datblygu Strategol (CDS) yn cydnabod nad yw cynllunio ar gyfer ardal weinyddol awdurdod cynllunio lleol unigol o reidrwydd yn adlewyrchu sut mae pobl yn byw eu bywydau, sut mae marchnadoedd yn gweithredu na sut mae busnesau’n gweithio. Mae CDSau yn cynnig y gallu i sicrhau bod ardal ddaearyddol ehangach yn cael ei hystyried mewn un cynllun. Mae'n mabwysiadu pwynt canol rhwng y Cynllun Cenedlaethol a'r CDLl a bydd yn darparu cyd-destun strategol ar gyfer paratoi CDLlau dilynol. Bydd y gwaith o baratoi CDS yn cael ei ddatblygu gan Gydbwyllgor Corfforaethol sy'n cynnwys CBS Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, CBS Wrecsam ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mwy o fanylion i ddilyn.