香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Ysgol Uwchradd Cei Connah


Bydd y cynllun arfaethedig yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn disodli'r bloc Dylunio a Thechnoleg (D&T) presennol, bloc Celf a Thechnoleg Bwyd. 

Bydd y prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif newydd hwn yn gweld dymchwel y bloc tri llawr presennol a darparu mynedfa ac ardal weinyddol dros dro, ynghyd â bloc deulawr newydd, sy'n cynnwys Gweinyddiaeth, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio, darpariaeth addysgu ychwanegol, gofod swyddfa, toiledau, darpariaeth asesadwy, lifft, grisiau, ystafell beiriannau ac yn amodol ar gyllid sydd ar gael, moderneiddio cladin ar y bloc chwaraeon presennol.

Mae Kier Construction wedi eu penodi i gwblhau'r dylunio ac adeiladu ar gyfer y prosiect hwn.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn Haf 2017 a bydd y contractwr yn sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl i ddysgwyr a'r gymuned leol, gyda dyddiad cwblhau cynlluniedig yn gynnar yn 2019 ar gyfer Cyfnod 1.

Cylchlythyrau:

Cylchlythyrau 15/1/18  
Cylchlythyrau 3/4/18 

Ffotograffau Safle:

  
   
  
      
  
  

   
   
   

Cerrig Milltirallweddol:

Llun: Seremoni Torri Tir Ionawr 2018

Newyddion Diweddaraf: Llofnodi'r trawst yn Ysgol Uwchradd Cei Connah Mawrth 2018