Tocyn bws (pobl dros 60 neu bobl anabl)
Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod chi’n 60 oed neu hŷn, gallwch deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bws yng Nghymru a’r ffiniau a gallwch deithio’n rhatach neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd. Gallwch ymgeisio am eich Cerdyn Bws gyda Thrafnidiaeth Cymru drwy glicio’r botwm isod.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y Cerdyn Bws 60+, cysylltwch â
Cerdyn Bws Anabl a Chydymaith
Os ydych chi’n bodloni meini prawf cymhwyso’r Llywodraeth o ran anabledd, gallwch deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bws yng Nghymru a’r ffiniau a gallwch deithio’n rhatach neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd. Gallwch ymgeisio am Gerdyn Bws Anabl a Chydymaith drwy anfon neges e-bost ConcessionaryTravel@flintshire.gov.uk