香港王中王最快开奖结果

Alert Section

Grantiau & Benthyciadau Tai


 Benthyciad Eiddo Gwag

Mae oddeutu 500 o eiddo gwag hirdymor yn Sir y Fflint; mae'r Grant Eiddo Gwag yn fenthychiad i helpu perchnogion i ailddefnyddio eiddo gwag.

Mae'r grant ar ffurf benthyciad di-log sy'n talu am waith i sicrhau fod yr eiddo yn cyrraedd y Safon Tai Gweddus. Er enghraifft, gwaith i wella eiddo sydd mewn cyflwr difrifol wael, darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern, gwella systemau gwresogi ac insiwleiddio, a chael gwared ar unrhyw beryglon difrifol a allai effeithio ar les y meddiannydd, megis lleithder, grisiau peryglus neu wifrau trydanol.

  • Uchafswm: £35,000 i bob uned o adeiladau(uchafswm o £150,000 i bob ymgeisydd).
  • Mae'r Cyngor yn berchen ar gyfran o'r eiddo a ad-delir os caiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo cyn pen 2-5 blynedd.
  • Ar gyfer y rheiny sydd wedi bod yn berchnogion am 6 mis a mwy, sicrhau fod eiddo preswyl gwag yn cyrraedd safonau gosod tai.
Meini Prawf CymhwyseddAmodauSwm
  • Mae gan yr ymgeisydd fuddiant perchennog
  • Rhaid i'r ymgeisydd gael digon o ecwiti yn ei eiddo i gwmpasu swm y benthyciad neu rhaid iddo/iddi gynnig gwahanol eiddo sydd â digon o ecwiti i'w warantu
  • Rhaid i eiddo'r ymgeisydd fod yn eiddo gwag hirdymor (dros 6 mis)
  • Rhaid i denant fod yn yr eiddo nes i'r benthyciad gael ei ryddhau neu nes iddo gael ei werthu
  • Ar ôl cwblhau'r gwaith, rhaid i'r eiddo fod yn breswyliadwy a rhaid iddo gyrraedd y safon gosod tai (dim )
  • Rhaid cael yswiriant adeiladau ar yr eiddo nes i'r benthyciad gael ei ad-dalu
  • Uchafswm o £35,000 yn amodol ar brofion cymhwysedd ac asesiadau benthyciadau
  • Mae'r Cyngor yn berchen ar gyfran o werth yr eiddo, am gost y gwaith
  • Caiff y benthyciad ei ad-dalu pan gaiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo (hyd mwyaf y benthyciad yw 2 flynedd ar gyfer gwerthu a 5 blynedd ar gyfer rhentu)
  • Gellir gwneud ad-daliad cynnar gwirfoddol ar unrhyw adeg

Benthyciad i Berchen-feddiannydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun Benthyciad newydd sydd yn cynnig cymorth ariannol i berchnogion eiddo preifat.
 
Mae’r cyllid, sydd ar gael i Gynghorau Cymru, yn galluogi’r Cyngor i ddarparu benthyciad tymor byr i dymor canolig i berchnogion eiddo is-safonol sydd yn gymwys i’r meini prawf fforddiadwyedd ac sydd yn gyfyngedig i ffynonellau cyllid eraill. 

  Sylwch, mae hyn yn golygu eich bod yn bwriadu rheoli'r prosiect eich hun, gan gynnwys ceisio dyfynbrisiau cystadleuol, trefnu arolwg asbestos, rheoli’r gwaith ar y safle a sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau yn foddhaol ac yn bodloni unrhyw ofynion deddfwriaethol sydd ar waith.

Sylwch fod y benthyciad yn ôl disgresiwn a ni ellir sicrhau cynnig o fenthyciad tan fydd yr ymgeisydd wedi cael hysbysiad ffurfiol o gymeradwyaeth.  Bydd yr holl arian yn cael ei dalu i chi ar ôl darparu anfoneb Contractwr (Contractwyr) ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio

Benthyciad i Berchen-feddiannydd

Benthyciad i Berchen-feddiannydd Adfywio Tai 

 

  • Gwefannau Defnyddiol